BBCcom_Content_Index_for_July_29_2021.txt
Carwyn_Eckley_yn_Ateb_y_Galw_-_BBC_Cymru_Fyw.txt
Ateb y Galw: Carwyn EckleyCyhoeddwyd9 Medi 2025Gyda chyfrol newydd o farddoniaeth yn cael ei chyhoeddi'r wythnos hon,hall da fama poker tro Prifardd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd, Carwyn Eckley yw hi i Ateb y Galw.'Trochi' yw ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth gyda cherddi yn adlewyrchu ei ddiddordebau, ei lawenydd a'i ofidiau fel bardd.Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, mae Carwyn bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel newyddiadurwr.Dyma ddod i adnabod Carwyn ychydig yn well.Ffynhonnell y llun, Eisteddfod GenedlaetholDisgrifiad o’r llun, Carwyn yn cael ei gadeirio ym MhontypriddBeth ydi dy atgof cyntaf?Un o'r atgofion cynharaf sydd gen i ydi dysgu reidio fy meic ar L?n Eifion efo fy nhad, cyn i gi mawr - labrador, dwi'n meddwl, redeg ata i ac achosi imi ddisgyn oddi ar y beic. Mi gymrodd sbelan imi faddau i g?n!Dy hoff le yng Nghymru a pham?Dyffryn Nantlle. Golygfeydd anhygoel a phobl go-iawn, ffraeth.Y noson orau i ti ei chael erioed?Mi oedd y parti yn Lille ar ?l i Gymru guro Gwlad Belg yn un go arbennig!Ffynhonnell y llun, Carwyn EckleyDisgrifiad o’r llun, Carwyn yn dathlu yn Lille wedi buddugoliaeth Cymru yn erbyn Gwald BelgDisgrifia dy hun mewn tri gairPositif, prysur, sensitif.Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n?l?Gwers fathemateg tua Blwyddyn 9. Pedwar ohonon ni'n cyrraedd y dosbarth yn hwyr ar ?l gwers ymarfer corff ac yn meddwl y bydda' fo'n ddoniol cerdded mewn i'r dosbarth a chanu 'Hello, hello, hello, hellooooo" un ar y tro fel barbershop quartet. Wnaeth neb yn y dosbarth chwerthin. Troi rownd a sylweddoli bod y Prifathro, oedd yn y cefn yn arsylwi'r wers, wedi gweld y cyfan. "Da chi isio trio hwnna eto hogia?" oedd ei ymateb o. Jaman go iawn!Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?Cael fy nal yn taflu papur t? bach gwlyb ar y to yn yr ysgol gynradd. Wps.Disgrifiad o’r llun, Mae Dyffryn Nantlle yn agos iawn at galon Carwyn a'i hoff le yng NghymruPryd oedd y tro diwethaf i ti gr?o?Efo Sian, wrth inni wylio Seremoni'r Cadeirio eto ar ?l Eisteddfod Wrecsam 2025.Oes gen ti unrhyw arferion drwg?Dwi'n gallu bod yn ddiamynedd iawn weithiau.Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?Dwi'n hoff iawn o'r podlediad Legacy sy'n trafod cyfraniad ffigurau mawr mewn hanes ac a ydyn nhw'n haeddu'r enw sydd gennyn nhw erbyn heddiw.Ffynhonnell y llun, Carwyn EckleyDisgrifiad o’r llun, Carwyn a Dat - ei dad-cu, dyma un o'r lluniau pwysicaf yn ei gasgliadByw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?Fy nhad-cu mae'n debyg, neu Dat i fi. Richie Brynmair oedd ei lysenw, ac roedd o'n l?wr ym Mhwll Cynheidre yng Nghwm Gwendraeth. Mae gen i gof plentyn ohono fel cymeriad mawr efo calon fwy. Mi fydda'n dda rhannu j?c efo fo dros beint heddiw.Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.Dydw i ddim yn Gog go-iawn! Mae teulu Mam o Gwm Gwendraeth a theulu Dad o ochrau Aberhonddu.Ffynhonnell y llun, Carwyn EckleyDisgrifiad o’r llun, Carwyn yn mynd am dro gyda'i deuluAr dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?Mynd am dro ar hyd yr arfordir neu fynydda efo fy nheulu a'r ci, cael cinio mawr yn rhywle a chael ffrindiau a theulu ynghyd am ddiod yn y nos.Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?Y llun o fi a Dat. Mae'n dal llawer o'r hyn sy'n bwysig i mi heddiw - teulu, pêl-droed a Chymru.Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?Bruno FernandesFfynhonnell y llun, Getty ImagesDisgrifiad o’r llun, Fe hoffai Carwyn fod yn Bruno Fernandes, capten Manchester United am y diwrnodPynciau cysylltiedigEisteddfod GenedlaetholCelfyddydauHefyd o ddiddordeb:Ateb y Galw: Rhys IorwerthCyhoeddwyd24 Gorffennaf 2017Ateb y Galw: Y Prifardd Guto DafyddCyhoeddwyd21 Medi 2020Ateb y Galw: Non Mererid JonesCyhoeddwyd18 Tachwedd 2024